Wednesday, 17 September 2014

Costa Rica


Pendrefynais fy mod i eisiau mynd yn syth i Santa Teresa, ar ochr y mor tawel. Cymrodd o dros 13 awr i mi, erbyn i mi gyrredd Puntarenas, mynd at y gwch a dal bws arall i Santa Teresa ar ben yn hun bach efo chydig o Sbaeneg (oni reit falch o fi fy hun.

Ond roedd cyrredd yr HOSTEL MWYA CWL ERIOED, o'r enw Funky Monkey yn sicr yn werth y daith.

Hostel oedd fel cwt rili posh, ac oni'n cysgu mewn tent/cwt ond roedd y gwelyau yn hyfryd ar stafell molchi.

Bob nos Sadwrn oedden nhw'n cael parti sushi, a dyma'r sushi neisia i mi erioed ei flasu. Roedd y pentref i gyd yn dod i Funky Monkey ar nos sadwrn i yfed a byta sushi, roedd yr awyrgylch yn gret.

Wnes i'm llawer o ddim byd yn ystod y dydd, dim ond torheulo wrth y pwll, siarad efo Americanwyr , gan fod na gymaint ohonyn nhw yn Costa Rica!!!! Wir roedd Costa Rica yn teimlo fel maes chwarae i Americanwyr.

O Funky Monkey, es i Montarverde. Pentref fyny yn y mynyddoedd uwchben y cloud forest, fel oedden nhw yn ei alw.

Es i yno efo Gjis boi o'r Iseldiroedd yn wedi bod yn teithio America a Costa Rica ers deufis. Roedd y daith yn un reit cwl, aethon ni ar ferry a gweld dolffin a dynion wedi meddwi.  Ar y ffordd i'r ferry roedd na streic ar y ffordd, pobl yn prostestio i gael ffyrdd gwell yn Costa Rica. Roedd rhaid i mi gytuno bod angen ffyrdd gwell yno. Ta, waeth roedd y ffordd wedi cau a pawb yn dechrau poeni eu bod am fethu'r gwch, ond daeth Maer Santa Teresa a un heddwas at y protest, ac o fewn 2 funud roedd y ffordd yn gorad unwaith eto.

7 awr yn ddiweddarach, cyrhaeddodd ni Montarverde. Lle oer ond braf oedd cysgu mewn pyjamas gwisgo dillad cynnes. Noson gyntaf aethon ni gwely am 8 o'r gloch nos. Roedden ni fod i wneud y zipline dros y cloud forest drannoeth, ond roedd hi'n piso bwrw a doedd gen i fawr o awydd cael sociad. Felly arhosom ni 3 noson yn hytrach na dau, a meddwi efo rw ferched o Iwerddon/Llunden. Noson dda o gysidro na dim ond un tafarn oedd yn Montarverde.

Bore wedyn aethon ni ar y zipline, oni'n cachu'n hun, mae genai gymaint o ofn uchder ac oni'n hedfan dros y cloud forest, yn wneud tua 75mya. Ond wnes i wneud efo guide, gan bod genai gymaint o ofn ond wnes i fwynhau yn arw a roedd yr olygfa yn un wnai fyth anghofio.

Noson yna aethon ni i gwely yn gynnar eto a symud ymlaen i'r lle nesa sef La Fortuna, Volcan Arenal.

Roedd y daith i La Fortuna yn hyfryd, bws wedyn cwch wedyn bws eto. Roedd y gwch yn mynd ar hyd Llyn Arenal, lle roedd yn bosib gweld Volcano Arenal, sef yr llosgfynydd mwya active yn y byd. Mi ffrwydrodd ddiwethaf yn 2003.

Arhoson ni mewn hostel 5 seren, efo pwll nofio, air con a cawod poeth, roedd hyn yn rhywbeth newydd i mi.

Yr unig beth wnes i yn La Fortuna oedd mynd i'r hot springs, yfed a cysgu wrth y pwll. Doedd gen i fawr o awydd mynd am hike, ar ol bod fyny ambell i losgfynydd yn Nicaragua a Guatemala.


Roedd y daith nesaf yn un epic, oni fod i fynd i Manuel Antonio, sef parc cenedlaethol ar ochr y mor tawel yn Costa Rica, ond es i efo'r hogia i Puerto Viejo. Gan eu bod yn meddwl fod gynnyn nhw fws direct i Puerto Viejo, ond roedd na ddau Puerto Viejo yn Costa Rica, un yn y Gogledd ac un reit lawr yn y gwaelod ar ochr y caribi *sef yr un oedden ni isio mynd iddo*. Dyla bo fi wedi mynd i Manuel Antonio wir dduw, 5 bws a 18 awr yn ddiweddarch cyrhaeddon ni Puerto Viejo, lle roedd bob Hostel yn llawn. Ond arhosom ni mewn hotel am un noson,

Roedd Puerto Viejo yn iawn de, roedd na bysgod neis yna.... wnai son am y dyn pysgod heno! Wedi bod yn teipio non stop ers awr, dwi yma i fwynhau nid sgwennu traethawd wedi'r cwbl.

Thursday, 4 September 2014

Llŷn Ometepe a gweddill Nicaragua.

Aethon ni i brynu tocynnau ben bore ar gyfer y gwch, a oedd yn gadael Granada am 5yh a oedd am gymryd 5 awr, aaaargh! Ac roedd yn rhaid i dwristiaid gymryd y tocyn first class, oedd ond tua £2.

Ond doedd y gwch yn sicr ddim yn first class, pawb yn eistedd ar lawr concrit, yn rhewi, heb fwyd a diod am 5 awr!! Er ar y gwch ddaru ni gyfarfod a ddwy ferch ofnadwy o ddoniol o Lunden. Laura a oedd yn teithio am byth a'i ffrind George oedd yn teithio am 3 wythnos yn Nicaragua. 

Wel, roedd y gwch yn ddoniol, ddaru ni ganu, cysgu, gwylio ffilm crap. Erbyn i ni gyrredd Ometepe, roedd pawb mor flinedig, oni'n rili bivish a just angen cyrredd fy ngwely, ond doedd gen i'm
gwely. Wnes i rw foi bach orfodi ni aros yn ei westy. 30 yn gefn pick up, yn y tywyllwch efo 20 o bobl eraill, cyrredd gwesty bach budur, ond doedd gen i fawr o awydd chwilio am rwla arall, cysgais 11 awr, newid mewn 5 munud a dal bws i Playa de Amigo yn hanner cysgu. 

Playa de Amigo, aros mewn stafell efo Laura, George, Owen, mewn gwesty bach o'r enw Buenas Vista. Lle bach rili neis, reit wrth droed y llŷn a oedd yn debycach i fôr na llŷn, gan ei fod
mor ANFERTH!! 

Aeth fi, Laura, George am antur ar ôl cyrredd de Amigo. Cerdded ogwmpas yr ynys a chyrredd caffi bach vegan, oedd yn wneud bwyd neis iawn. Er oni mor llwglyd wnes i stopio mewn lle reit
dodjy i fyta ar y ffordd, hehe! Llawn dynion wedi meddwi, ieir a chŵn, ond
duw roedd y bwyd reit neis a dwi dal yn fyw.

 Ar y ffordd nôl ddaru ni hitchio lifft yn gefn pick up i Ocho de laguna, llŷn bach yng nghanol y jungle a yfed coconut rum.

O fanno gafodd ni lifft mewn tuc tuc yn ôl i'r gwesty, motor beic bach efo trelar ar ei gefn oedd yn cyrredd max speed o  20mya, hwyl a sbri yn ein bikinis.

Noson yno ddaru ni yfed lot fawr o rum, rhoi'r byd yn ei le a chwara cardiau, gemau da fyd, oni wrth fy modd efo'r gem estimates (er ddim yn cofio sut i wneud y summs ar y diwedd).

Codi'n fuan bore wedyn a ffwrdd a ni am hike drwy'r jungle i weld volcan Conception. Er , welon ni ddiawl o'm byd ond chydig o fwnciod a gwaelod y volcano. Daria!!

Noson yna, mynd am bryd o fwyd neis lle ges i'r shrimp gora dwi erioed wedi flasu, chwara cardiau a gwely cynnar.

Bore wedyn, roedd hi'n piso bwrw, a ninnau wedi bwriadu mynd am hike fyny'r llosgfynydd lleia ar yr ynys, damia hi! Er aethon ni ar daith yn y glaw drwy'r jungle, gweld mwy o fwnciod ac ambell i dderyn, a wedyn heidio hi i'r llŷn yn y prynhawn.

Wedyn yfed mwy o rum, codi am 5 i ddal y bws i gyrredd y gwch erbyn 7. Er, eto ddaru ni hitchio lifft yn gefn pick up, canu efo criw o Nicaraguans ( dal wedi meddwi) a cyrredd y gwch mewn da bryd.

Ar ol cyrredd yn ol i Rivas, llwyth o ddynion hen yn gwaeddi "TACSI" a finnau efo pen rum. Ond dewision ni y tacsi mwya cwl, oedd yn chwarae Blondie, Abba a Beegies, son am ganu, canu top ein lleisiau efo'r dyn tacsi.

 Wps, dwi wedi anghofio son i le oedden ni'n mynd. Wel oedden ni'n mynd i draeth Maderas, sydd tua 20 munud o San Juan Del Sur. tref parti mawr yn Nicaragua. Roedd Maderas yn llawer mwy calm a neis na San Juan Del Sur. Tra yno cefais wersi syrffo, ac oni'n lot gwell nac oni'n meddwl fyswn i. Wedi hynny oni'n stiff fel procar, felly treuliais y prynhawn yn yfed a chwarae cardiau. Roedd yr hostel lle oedden ni'n aros yn rhyfedd, roedd y lle yn llawn anifeiliaid anwes rhyfedd, fel mochyn, cwningen, cath, iguana a chwn. Roedd y mochyn yn boen yn y pen ol a roedd y gwningen yn mynnu cysgu tu allan i'm stafell wely, felly pan yn codi yn ganol nos i fynd i'r toilet oni'n cael diawl o fraw bob tro.

 Ar ol dwy noson ar y traeth, aethon ni aros yn San Juan Del Sur. Am ryw reswm oni methu cynhesu at y lle, ar ol clywed gymaint o hanes am bartio yno ag ati, oni'n teimlo mae tref i bobl ifanc a PHOBL gwyllt oedd wedi ymgolli yn y lle ar alcohol ers misoedd. Roedd lle aethon ni aros yn lan ac yn neis ac efo pwll nofio tawel ac glan. Treuliais dau ddiwrnod yn San Juan Del Sur, cerdded i weld Iesu Grist efo'r dwy ferch o Lunden a Owen o Gymru, mynd allan am chydig o rums ac wedyn mynd i Costa Rica ar y bws.

Leon i Granada!

Deffro ar ôl 6 noson Lèon, mynd am frecwast am y tro olaf efo Chuck o Efrog Newydd, triste! 

Ffwrdd a ni (fi a Owen boi o Gymru oni'n teithio efo am cyfanswm o fis) i ddal y bws i Managua (prifddinas Nica)! Lle hyll, drewllyd a phrysur. Dal bws bach a gymerodd awr o Leon i Granada, llawn i'r ymylon ond llwyddodd tua 3 person i ddod ar y bws i werthu mangoooo! Doniol, ar bob bws mae gynnoch chi rywun yn gwerthu mango ac yn dweud "Mango, mango very tasty, yum yum" doniol.

Wedyn o Managua, aeth a rw foi a fy mag a rhoi fi i eistedd ar fws a mynd a fi holl ffordd i Granada, efo Owen. Chapmion a mi gostiodd y daith cyfa' tua £2, champion.
 
Yn Granada ddaru ni aros yn hostel Oasis, lyfli o le efo pwll nofio. Ond do'n ni'm yn or-hoff o Granada fel lle, llawn siopau a bwytai posh yn arbennig i dwristiaid. Er roedd na lawer o sioeau tan, sioeau dawnsio stryd ar y stryd a oedd yn dda iawn.

Yn Granada wnaethon ni'm llawer o ddim
byd dim ond yfed, gweld tua 4 eglwys. Doedd na fawr o'm byd arall i wneud, lle reit ddiflas ond hardd hefyd;

Roedd Granada yn adlewyrchu pa
mor dlawd oedd Nicaragua. I mi oedd y gwrthgyferbyniad rhwng y bwytai posh,  marchnad i dwristiaid ar plant a phobl tlawd ar y stryd yn ormod. Gwelwyd yn glir bod 'na broblemau cymdeithasol, plant yn sniffio glud ar y stryd ac ati, llawer iawn o ddynion yn trin merched yn anheg, gan gynnwys rhai ohono ni.

Er wnaethon ni gael hwyl, roedd na griw da ohono ni yn yr hostel, rhai o
ni di gyfarfod yn Guatemala. Wnaethon ni goginio bwyd er mwyn osgoi mynd i'r bwytai posh. 

Next stop - Llŷn Ometepe! Wel sôn am hwyl.

Saturday, 23 August 2014

Leon.


Arhosais yn un o'r hostels gora dwi erioed wedi aros, lazybones! £4 y noson, gan gynnwys pwll nofio, gwely a choffi a te yn y bore.

Yno wnes i gyfarfod Phoebe a Chuck, un o Loegr (phoebe) a Chuck o Efrog Newydd. Dau berson clen a chyfeillgar oedd wedi bod yn teithio ers misoedd ac wedi cyrredd pwynt o fod mewn limbo, er wnes i lwyddo i godi eu calonau dwin meddwl a wneud iddyn nhw yfed a nofio a dysgu mwy am Leon.

Leon,  dechreuodd y chwyldro yn Nicaragua, lle bu helynt rhwng y sosialwyr ar Somoza (Ceidwadwyr eithafol). Dechreuodd yr chwyldro yn 1961 pan ddechreuodd y myfyriwr Carlos Foncesca wneud gwaith ymchwil ar hen wleidyddiaeth un o arwyr Nicaragua sef Sandino, dechreuodd  yr FSLN, sef y blaid democrataidd, chwyldroadol sydd bellach yn rhedeg y wlad er 2005.

Yn ystod y chwyldro, roedd merched yn hynod ddylanwadol ac yn rhan allweddol o'r chwyldro. Dywed nifer na fuasent wedi ennill y chwyldro oni bai am y merched, ei da nhw! 

Dyma yr unig beth wnes i ar fy niwrnod cyntaf yn Nicaragua, Leon. Roedd Leon yn brydferth ond yn ofandwy o boeth, mucho caliente, felly treuliais mwyafrif o fy amser yn y pwll nofio yn yr hostel. Ac yno cyfarfodais ar llydawyr, criw grêt o bobl
oedd yn mwynhau bwyta ac yfed wrth y pwll. 

Dwi'n meddwl ar fy nhrydedd diwrnod wnes i'r volcano boarding. Gwych ond oni'n hoples ac efo gymaint o
ofn disgyn wnes i mi orfod ddod oddi ar y trac gan bo' fi mor araf deg ac yn rhwystro eraill rhag fynd lawr y trac, embarassing!! Felly roedd rhaid i mi gerdded hanner ffordd lawr y volcano.

Dyma lun o'r volcano; 

Argh, roedd cerdded fyny efo'r board yn ddipyn o sialens, er rhaid dweud nath yr instructor gario fy mwrdd i, hehe!!

Roedd yr hogla ar ben yr volcano yn rhyfedd, fel sulphur, glo a thân.

Ar y ffordd i'r volcano, roedd y daith yn cŵl, cefn pick up, drwy ffermydd a phentrefi bach gwledig. Ro'n ni wrth fy modd, dweud gwir roedd rhan fwyaf o'r
teithio wnes i'n Nicaragua ar gefn pick up, lot o hwyl. 

Noson yna, aethon ni allan a ryw sut arhosais i fyny efo'r llydawyr yn siarad Sbaeneg efo nhw tan 3 y bore, pwy a wyr be oni'n ddweud wrthyn nhw!! 

Diwrnod wedyn ar ôl clywed y seiren mi ddeffrais a es i'r pwll. Yn y prynhawn es i siopa yn yr archfarchnad. Ma archfarchnadoedd Canolbarth America yn cynnwys pob dim, bach fel Tesco Extra. 

Ar ôl siop fach, mentrais i ben yr Eglwys Gadeiriol. Tipyn o dasg oedd trio ffeindio y dyn/dynes oedd yn gwerthu'r tocynnau. Bues i drwy tua 10 drws a doedd dim son am nunlle i brynu tocyn, cyrraedd drws rhif 11 a dyna lle oedd na lwyth o fanacins o Iesu Grist, a dynes fach yn gwerthu tocynnau.

Roedd cyrraedd top yr Eglwys Gadeiriol fel cerdded o gwmpas maze o risiau bach. Ond roedd cyrraedd top yn sicr gwerth y chwilio. Er dechreuais i gerdded ar ben y to a dyma'r dyn bach tenau 'ma yn rhoi uffern o ffrae i mi am beidio tynnu fy sgidia, am ei bod newydd baentio y to yn hollol wyn.


Monday, 18 August 2014

Nicaragua!

Dechreuais ar fy nhaith o Antigua i Nicaragua am 1:30 y bore. Dyn bach mewn car swish iawn bigo fi fyny ac mynd a fi i westy swish yn Ninas Guatemala ( un o'r llefydd mwya peryglus yn y byd, bob un siop, banc a chaffi efo dyn yn sefyll tu allan efo gŵn) ac o fanno mi ddalis i fws i Nicaragua, bws o'r enw Sol.

Uffern o fws posh, ond roedd yr air
conditioing yn mynd ar fy nerfau, oni'n rhewi. A pan ddeffrodd y ddynes ar y bws mi yn y bore oherwydd roedd hi isio fy mlanced yn ôl roedd bron i mi ei slapio cyn sylweddoli fod gynna i fleece a chardigan yn fy mag.

Ta waeth, prif bwynt fy stori ydy bod bachgen o Ganada yn teithio efo fi a oedd yn andros o annoying. pwrpas fy nhaith oedd cyrredd Managua wedyn mynd i Leon mewn tacsi. Dywedodd y Canadian fod y bws yn mynd i Leon, gofynnais i'r dreifar a doedd y bws fel oni'n gwybod ddim yn mynd i Leon. Wedyn dywedodd wrtha i am fynd ffwrdd i Estelli a bwcio tacsi i Leon, am ei fod yn rhatach, ond doedd o ddim. Felly er mwyn cau ei geg be wnes i oedd gofyn i rw Nicaraguan oedd yn byw yn Estelli i fwcio tacsi i mi o Managua i Leon, a mi wnaeth a pan gyrhaeddis i Managua roedd y dyn tacsi yn sefyll yna efo darn o bapur efo fy enw wedi ei sillafu yn gywir, mewn word art , anhygoel! A wnes i godi dau fys ar y Canadian,ha! 

Aeth y bws a fi holl ffordd ac at stepan drws fy hostel, sef lazybones. Cyrredd tua 8y hwyr a mi gysgais tan 7 y bore, ar ôl clywed y seiran. 

Y Serian
Pwrpas y seiren ydy i ddeffro pobl Leon am 7 y bore , er mwyn mynd i gwaith. 

12dydd maer seiren yn mynd er mwyn i bawb wybod bod hi'n amser cinio.

6 o'r gloch i ddathlu fod pawb wedi gorffen gwaith am y dydd (dim pawb ond mwyafrif dwi'n siŵr) .

A dyna hanes y seiren.
Mwy i ddod, ond maen braf a dwi'n eistedd yn wneud dim byd, hwyl fawr!!

San Pedro


iTref bach ar ochr llŷn atitlan yw San Pedro. Llawn hippies a lot o ladron. Lle da, ond roedd rhaid bod yn ofalus. 

Doedd fy ffrindia' ddim mor
lwcus ac oni, yn anffodus. Aethon nhw ar  y mynydd ben bore i weld yr haul yn codi dros llŷn Atitlan ac torrodd rywun mewn i'w stafelloedd a dwyn eu holl arian, daria nhw! Ond roedd y perchenog yn ddyn neis iawn ac talodd yr holl bres a ddygwyd yn ôl iddynt, da de??!! A ddudis i wrtha fo bod angen iddo fo osod lockers, ac mae ei hostel ef oedd y cyntaf i mi fod mewn heb locker. Er wedi hynny dwi heb weld locker yn nunlle oni bai am lazybones (hostel yn leon) a Oasis (Granada)

Ta waeth san pedro, ar y nos wener ddaru ni gymryd rhan mewn cwis a oedd efo tua 200 o bobl wedi sgwashio mewn bar oedd yn dal tua 50 yn unig. Rhai o'r sialensau oedd neidio mewn i'r llŷn a ennill 1000 consolas, sef tua ...78punt. Llwyth o bres yn Guatemala, gan fod stafell mewn hostel ond tua £3 y noson, bargen.

Sialens arall oedd taro'r tarw ar y bwrdd darts o flaen 200 o bobl. 

A wedyn llwyth o gwestiynau, mi ddysgais bod horsefish yn medru storio bwyd yn ei gynffon, na Saesneg ydy'r iaith efo mwyaf o eiriau yn y byd. sydd yn wneud synnwyr gan nad yw yn iaith pur.

A dyna wnaethon ni y noson gyntaf!! Dydd Sadwrn wnes i godi'n gynnar a mynd drosodd i San Marcos. Pentref neu dref arall ar ochr y llŷn, oedd llawn hippies yn wneud yoga. 

Ac yna mwyaf sydyn, es i i deimlo yn ddiawl o sal, a dechreuais deimlo'n saaaal. Felly ffwrdd a fi i chwilio am hammoc i gysgu, syrthio'i gysgu yn yr hammoc a oedd yn yr ardd yn y gwesty crand ma oedd yn llawn pobl cyfaethog ofnadwy. Mi ddeffrais yn teimlo 10 gwaith gwaeth, ond wrth ddisgyn allan o'r hammock disgynnais a baglu mewn i ddynes oedd yn nyrs a rhoddodd dabledi i mi allu mynd yn ôl ar y gwch i San Pedro. Pan gyrhaeddais San
Pedro, dechreuais chwydu a chwydu fues i am bron i ddeuddeg awr, awtsh!! Serch hynny, mi ddeffrais ben bore (4am) i fynd fyny yr Indian Nose, mynydd eithaf anodd i gyrredd ond roedd y golygfeydd yn anhygoel SBIWCH?? 


A dyna fo'n San Pedro rili, byta cinio a mynd am goffi efo dwy ferch o America a wedyn nôl i Antigua ar fws 4 awr. 

Cyrredd Antigua a roedd Dave y Gwyddel sy'n edrych fel Tin Tin wedi bwcio stafell breifet i mi mewn hostel oherwydd fy mod wedi bod yn sal, y salwch a gefais gynno fo i ddweud y gwir. 

Dydd o chwiolta yn y farchnad a noson o goginio pasta (sydd i fod yn hawdd) ond gollyngodd Sabina (merch o Lunden/Glasgow/Caeredin/Rwsia) y pasta ar y llawr a roedd rhaid nôl mwy o basta. Doedd dim un archfarchnad yn gwerthu aguacetaaaaaaa (avocado) felly ffwrdd a ni i'r farchnad i chwilio am aguacetaaaaaaa, sialens a hanner achos doedd dim un AGUAEFFINCETAAA yn ddigon da i Sabina, ond daethon ni o hyd i ddau a coginioddd Shaun ( boi o Sandiego, California) un o'r guacamoles gora dwi erioed wedi gael, yuuum. Ar pasta hefyd dweud gwir.

Wedyn es i'r gwely, cyn cychwyn ar fy nhaith 18 awr i Nicaragua ....dy dy dyyyyyy!!

Wednesday, 6 August 2014

Semuc Champey , Lanquin



Semuc champey, trio ffeindio llun wel dyma lun, o'r mirador (view point)! Roedd na rhai ohono ni'n ddigon gwallgof i fynd o dan y ddaear i'r ogofau am awr a hanner gyda gola cannwyll yn unig, wnes i jibio'i ar ôl noson fawr yn sephyr lodge doedd gen i'm awydd bod o dan ddaear yn clostrophobic i gyd! Serch hyn wnes i gerdded i dop y mirador a nofio a sleidio o bwll i bwll, hyfryd.

Sephyr lodge oedd enw'r lle ro'n ni'n aros yn Lanquin! Hyfryd o le yng nghanol y jungle ar ben mynydd reit wrth ymyl yr afon! Ro'n i'n aros mewn cwt a oedd yn llawn bob math o bryfed a welis i ambell i lizard a un pry cop anferth tua seis fy nghiwcymbyrs yn y tŷ gwydyr. 

Cyfarfodais a ambell i Saes yma rhai neis iawn ac bachgen o California o'r enw Shaun a oedd yn athro mathemateg. Bues i'n teithio i Antigua a Llŷn Atitlan gyda fo a Dave (tin tin gwyddelig). 

Roedd y daith o semuc champey i Antigua yn ddipyn o daith. Cyrhaeddodd y bws lleia welis i erioed tu allan i sephyr lodge gyda tua 14 o bobl mawr a bach yn aros i fynd arna fo. Ar ôl i ni gyd stwffio mewn i'r bws bach ma, gwaeddodd y dyn bws "pinchaso". Damia,  roedd gynnon ni deiar fflat cyn cychwyn, pawb stwffio allan a gadael i'r dyn bach newid yr unig deiar sbâr oedd gynnon ni, dechreuon ni weddio na fydden ni'n cael teiar fflat arall!! 

Ta waeth stwffio yn ôl ar y bws ac agor bob un ffenest a ffwrdd a ni. Dau funud mewn i'n taith, stopio mewn garej i roi rhagor o aer yn y teiars!! Cymrodd hyn tua 10 munud!! Wedyn ffwrdd a ni am yr ail dro a oedd yn llwyddiannus diolch byth!!! Ambell i stop ar y ffordd i fynd i'r toilet a ballu a bwyd. Oh ia,  stopio yn mcdonalds i bigo ffôn rw foi oedd yn byw yn Llunden i fyny, hollol random, ei enw oedd Tom.

A cyrredd Antigua tua 6 o'r
gloch yn stiff fel procar, llwglyd a chysglyd! Cyrredd fy hostel, jungle party a oedd yn neis iawn, cyn i mi gyrredd y gwely a oedd yn swnllyd iawn!! Bob tro oni'n symud neu anadlu roedd y gwely yn sgrechian, ych a fi! Er arhosais tair noson yma efo criw i fechgyn o Loegr yn rwla a oedd yn gwneud wythnos o wersi Sbaeneg, mynd ar lwyth o dêts a oedd yn reit doniol, achos bob bore oni'n cael clywed yr hanes i gyd. 

Antigua, dinas bach oedd gyda golygfeydd o'r llosgfynyddoedd a oedd yn amgylchynu'r ddinas, roedden nhw fel corn simdde i'r ddinas. Yn Antigua ma gynnoch chi pob dim, llosgfynyddoedd, siopau, archfarchnadoedd, marchnadoedd a llwyth o amgueddfeydd.

 Tra fues i yno es i'r farchnad artisan, marchnad rili cŵl llawn bob math o drugareddau, dillad lliwgar, hammocks, bagiau lledr, sbectolau haul, bwyd a phobl drewllyd! Roedd na lot o heddlu yno efo gynnau anferth, felly oni'n teimlo'n reit ddiogel. 

Yr ail ddiwrnod, es i ben llosgfynydd o'r enw Pacaya. Llosgfynydd byw, efo llwyth o lava poeth yn dod allan ohono. Cymrodd tua awr i gerdded i'r top, awr o chwysu a siarad gyda dynes o America a oedd wedi bod yn edrych ar ôl anifeiliaid ar ynys yn Flores am 5 wythnos!! Roedd hi wrth ei bodd efo anifeiliaid.

Cyrredd y top ac estynnodd y guide lwyth o marshmallows i ni gael
eu toddi a'u bwyta! Cymrodd o tua 2 funud i mi doddo fy marshamallows, ond roedden nhw'n flasus tu hwnt. 

Dyma chydig o lunia i chi; 



Cyrredd yn ôl i'r hostel, un cuba libre, un pitsa a wedyn syth yn ôl i'r gwely!! Mwy o hanes i ddod!! 

Tuesday, 5 August 2014

Guatemala!

Dechreuais i'n Flores, pam fanno? Wel oherwydd dyma'r lle gora i gyrredd ar ôl bod ar Ynys mor wyllt gacwn a Caye
Caulker a digwydd bod roedd na fws yn mynd yn uniongyrchol o Belize i Flores. Ar ôl 4 diwrnod go wyllt ym Caye Caulker pendrefynais wneud ychydig
o ddiwrnodau o wersi Sbaeneg, 5 i fod ond wnes i newid i 3 diwrnod gan fod na'm llawer o ddim byd arall i wneud yn Flores, oni bai am Kayakio ar y llŷn ac ymweld â Tikal (wnai sôn mwy am hyn wedyn)

Gwersi Sbaeneg, mewn bar/cafe o'r enw Skye Bar. Lle braf ofnadwy ond yn ystod fy ngwers cyntaf ges i fy mhigo tua 7 gwaith gan forgrug. Serch hyn roedd fy athrawes yn wych. Carmen oedd ei henw ac roedd hi'n byw gyda'i thad a oedd yn 90 oed, dipyn o ryfeddod yn Guatemala. Mae na lawer iawn o bobl yn marw yn Guatemala mewn damweiniau neu wedi eu hanafu yn y rhyfel neu'r fyddin.

Cyfarfodais a merch arbennig iawn tra'n Flores, Lili oedd ei henw o Quebec (French-Canadian). Roedden ni'n rhannu'r un feddylfryd am ba mor bwysig ydy hi i ddysgu ieithoedd gwledydd eraill, er mwyn cwrteisi a derbyn parch pobl leol. Roedd hi'n deall ein sefyllfa ni'n Nghymru o ran yr iaith Gymraeg, maen debyg bod Canadians Saesneg yn gwrthod siarad Ffrangeg yn Quebec, er ei bod hi'n iaith swyddogol, doh!

Buodd y ddwy ohono ni'n cymryd gwersi Sbaeneg, ond fuodd hi wrthi am 5 diwrnod, duw ac ŵyr sut, ond roedd hi'n  mynd i nofio yn y llŷn yn ddyddiol ac yn mwynhau stydio yn yr haul, tra oni'n tueddu i ddiogi yn y prynhawn ar ôl 4 awr o Sbaeneg. Er hynny ma gen i lyfr i'm helpu gyda fy Sbaeneg, ac rwyun gobeithio ymarfer mwy yn Nicaragua.

Tra'n Flores, bues i'n kayakio ar y llŷn i le bach oedd gyda rhaffau neidio mewn i'r llŷn. Teulu oedd bia'r lle ac os oeddech chi isio neidio ar y rhaff roedd rhaid talu 10 consales, sydd yn llai na £1. Gwych o le neidio mewn i'r dŵr tra oedd y teulu bach yn chwarae ac yn byw eu bywydau tra roedd na bobl diarth yn cyrraedd ar kayaks i ddefnyddio'i rhaffau. Roedd na hefyd amgueddfa bach ar ynys yng nghanol y llŷn gyda llwyth o drugareddau bach, bues i'm yn fanno oherwydd doedd gen i'm syniad sut y byswn ni'n landio yno ar kayak.

Tra'n kayakio yn ôl at y gwesty fe droedd y tywydd fwyaf sydyn a dechreuodd hi bistillio bwrw glaw a mellt a tharanau. Wannwyl roedd gen i ofn, ond wnaeth Lili a Dave ( Gwyddel sydd yn cael ei alw'n tin tin) edrych ar yn ôl i a dangos i mi sut  kayakio go iawn, sef padlo fel rhywbeth ddim yn gall!!!! Dweud gwir, roedd y stori yn fy hatgoffa am stori Tad Leus, pan aeth ar goll yn y niwl mewn kayak ar  llŷn Tegid.
 
Www bues i ar y llŷn ddwywaith, es i ar gwch hefyd a oedd yn mynd o gwmpas y pentrefi eraill ogwmpas y llŷn, taith dwy awr! Ar hon roedd y gang y rwyf wedi bod yn teithio gyda wedi cyrredd, Chris a Kathrine ( cwpl o Lunden) a Ciara, Dave, Glen a Lili.  Son am hwyl, stopiodd ni i gael ychydig o cervesas a wedyn gwylio Glen a Chris yn neidio oddi ar raffau y teulu bach. Hwyl a sbri, wedyn aethon ni am bryd o fwyd ( sef y swper olaf) .

Roedd ffarwelio a Chris a Kathrine yn anodd, gan eu bod wedi fy helpu ac wedi bod yn ffeind iawn efo fi, er roedden nhw'n mynd ar chwip o daith 5 gwlad mewn llai na mis.  Ond (pero yn sbaeneg) maen nhw'n llwyddo i wneud pob dim fyd chwarae teg iddyn nhw! Unwaith maen nhw wedi gorffen teithio, mi fydden nhw'n symud i fyw i Sydney am BYTH, felly siŵr wnai ddim gweld nhw am sbêl golew.

Diwrnod ar ôl iddyn nhw fynd, penderfynais bod rhaid i mi symud ymlaen o Flores, ac mi es i Tikal ar y dydd Gwener a heidio hi i Semuc Champey ar y dydd Sadwrn.

Be ydy'r Tikal gwirion ma? Medd chi! Wel lle sydd llawn temlau mawr anferth, lle buodd unwaith un o ddinasoedd mwyaf Canolbarth America. Maya oedd yn adeiladu y temlau a oedd wedi cymryd canrifoedd iddynt. Ond roedd ei gwaith yn grefftus ac diben yr adeiladwaith oedd gwneud yn siŵr fod arweinyddion y maya yn cael eu clywed gan bawb oedd yn byw yn y ddinas. Sut? Wel maer ffordd oedden nhw wedi eu hadeiladu yn creu be maen nhw'n alw'n saesneg 'echo' ac os glapiwch chi wrth y teml mae eich clap i glywed yn glir o bron bob un teml, maen anodd iawn i'w egluro ond fedrwch chi gredu pa mor anhygoel oedd  hyn.

Y plaza oedd yn anhygoel yn Tikal, fel pentref bach a oeddech chi'n medru dychmygu y Mayas yn byw eu bywydau 
yma.


 Un peth hynod o ddiddorol a ddysgodd ein tour guide i ni oedd bod pob un Maya hyd heddiw yn cael eu geni gyda spotyn bach glas/ddu ar waelod eu cefnau, sydd yn diflannu wrth dyfu. Dwnim oes oedd hyn yn wir, neu falle oni'n meddwl eu bod yn defnyddio spray defaid i dwyllo y babis bach. 

Ar y ffordd i teml 4 ( brenin y temlau) aethon ni am dro bach a dod ar draws toranchila( dim syniad sut i sillafu hwn, ond uffern o bry cop anferth a blewog)! Roedd yn hamddenol braf ac yn ddigon bodlon i ni afael ynddo fo, aaaaargh!

A dyma'n ni'n cyrredd teml 4, brenin y temlau!  Cerdded dros 150 o risiau i'r top! Llwyth o demlau i'w gweld dan fôr o goedwig gwyllt.


Wedi i mi ymweld ar temlau, ro'n ni wedi blino swps, dechreuais i ar y daith am 4 y bore er mwyn osgoi'r tywydd poeth a pobl! Ond wedi i mi gyrredd yn ôl roedd rhaid i mi fynd i'n ngwers Sbaeneg olaf, ac ar ôl tri mwg anferth o goffi cryf ro'n ni'n reit ddeffro ac yn barod amdani AMIGA!

Diwrnod wedyn, dyma fi'n dechrau ar fy nhaith i Semuc Champey, lle da meddai nhw ond wannwyl roedd yn uffern o daith o Flores ar fws bach bach llawn pobl mawr, mawr!! 

Monday, 21 July 2014

Canolbarth America so far ...

Diwrnod 1 - partio ar draeth yn Cancun. Cancun yn debyg iawn i Miami ar scale
lot llai, llwyth o hotels mawr crand sydd efo traethau ei hunain. Ond os ddim
yn aros mewn gwesty, mae na bosib talu i ddefnyddio traeth y gwesty am gost o 25dolar. Mae hynny yn cynnwys 5 diod a bwyd a defnyddio pwll nofio a chillio efo models enwog (yn ôl son)

nofio efo siarcs ......

Urrrm wnes i fwynhau nofio efo'r siarcod, anodd egluro ar hwn, ond roedden nhw'n ANFERTH!! Ac yn nofio tuag aton ni efo'i cega yn lled agored. Ac hyn i gyd ar ôl teithio tair awr ar speed boat a gwylio merch yn chwydu holl ffordd, afiach!! Er ar y ffordd adre mi stopiodd y gwch ar ynys hardd a oedd fel paradwys. Lyfli!!

Chichen Itza
Afiach, trip 3 awr a hanner ar fws oedd yn stopio mewn siop oedd wedi cael ei wneud ar gyfer tourists!! Afiach roedd yn llawn trugareddau afiach, cathod hyll a cwn drewllyd, pobl drewllyd a ges i'm
mhigo gan wenyn ar fy mraich a mi chwyddodd fel balŵn cyn i mi allu dweud 'jack shit'.
 Wedi hynny taith i Chichen itza, lle poeth llawn mosquitos a toursits blin!! Oni'n hynod o falch o gyrredd yn nôl i'r hostel!!

Diwrnod 4-
Heidio hi i dref o'r enw Playa del carmen!! Magaluf Mexico, un noson buodd ni yno a treuliais rhan fwyaf o'r cyfnod yn gwely neu ar y toilet oherwydd salwch bwyd.

Diwrnod 5/6
Tulum, tref llawn hippies a traethau fel paradwys! Er oni dal yn sal yma hefyd. teuliais diwrnod 5 yn y gwely mewn 2 siwmper a hithau yn 32 gradd tu allan. Diwrnod chwech aethon ni i'r traeth ac i'r mor i ddawnsio, gwych!! Cyn heidio hi o Tulum i Chetumal i ddal y cwch i Caye Caulker.

Caye Caulker
Urmm nefoedd ac uffern yr un lle. Cyrredd a cwbl glywodd ni oedd reggae yn blastio o bob un car, golf buggie. tafarn!! Cyrredd ein hotel a oedd yn hardd ofnadwy, cwt i ni'n hunain efo dŵr poeth a air conditioning ( peth prin)! Hyfryd, er dim ond un noson  buodd ni yn yr hotel, cyn symud ymlaen i hostel
o'r enw Dirty McNasty (swnio'n afiach) ond roedd yn le braf ofnadwy!! Er roedd gen i ofn yr rasta's, bob un ohonyn nhw off eu pennau ar gyffuriau ac yn trio gwerthu pob math o gyffuriau i ni! 

Noson gyntaf aethon ni i le bach oedd yn wneud pizza's bendigedig a prynu botel o rum a oedd yn rhatach na dŵr!! Wedi i ni yfed hwnnw aethon ni reggae bar ac adre!! Yr ail noson braidd yn mental, aeth sarah yn hollol wallgo, felly roedd rhaid i mi gysgu mewn dorm efo pobl do'n ni'm
yn nabod, er yn y bore mi es i am dro rownd yr ynys a treulio'r diwrnod ar y traeth yn llosgi a nofio!!

Roedd y traeth yn ddiddorol, "y split" oedden nhw'n ei alw oherwydd bu'r ynys dorri'n hanner yn y 40au, oherwydd hurricane! Ac ar y split oedd y traeth neu harbwr a tafarn rili cwl, llawn rastas afiach a pobl efo dannedd metal ( yn ôl son yn arwydd bo gennyn nhw bres) a p.a system a oedd wedi hen farw, sŵn ofnadwy.

Diwrnod wedyn wnes i heidio hi i Flores, Guatemala, taith 10 awr ... mi soniai am fy hantics yn Flores mewn pennod newydd! 


Caye Caulker.

Wel, o Tulum i Caye Caulker roedd y daith yn wahanol iawn. Taith 4 awr ar fws moethus i le o'r enw Chetumal, lle digon tebyg i Gaergybi, dim byd yna ond siopa, pobl a cychod. 

Mynd drwy immigration yn her a hanner, talu lot o dollars i groesi i Belize, a
roedden nhw'n mynnu agor ein bagia a teimlo fy nillad budur i gyd, ha!! Daria nhw.

Ces i chydig o drafferth dod o hyd i fy ngherdyn immigration, ond ddos i o hyd iddo fo diolch byth, son am palava!! A dwnim sawl darn o bapur dwi wedi lenwi i ddeud bo gen i ddim cig yn fy mag!! Www son am gig, wrth gyrraedd Cancun (mexico) yn y maes awyr roedd na ddynes yn sefyll wrth fotwm coch a dyma hi'n gweiddi arna i "Do you have meat?" a ddudis i "No" a wedyn roedd hi fel "Okay Chica, pres the button to confirm you said no" hollol wallgo a doniol.

Eniwe, son am y daith o Mexico i Caye Caulker, cyrraedd y "ferry" ( cwch bach rili sydyn) a cachu'n hun wrth feddwl am daith 3 awr ar speed boat bach efo bachgen hollol gwallgo o Awstralia oedd yn cadw dweud "This is so quaint" ac ar pob ynys oedden ni'n stopio roedd o'n prynu cwrw a finna yn diodde o salwch mor, ych a pych!!! 

Yr ynys cyntaf i ni gyrraedd oedd San Pedro i fynd drwy immigration ac roedd rhaid arwyddi i ddweud bod gen i ddim cig ETO!! 

Wedyn nol ar y gwch a cyrraedd Caye Caulker ..... wnai son heno, wedi blino teipio ac angen pi pi!! Adios

Saturday, 12 July 2014

Boi ma ....

Ma'r dyn bach ma o Vensuala wedi bod yn cysgu yn yr un hammock ers i ni gyrredd neithiwr am 5.

Wedi rhoi ambell nudge iddo fo, dywedodd rywun ei fod yn deffro am hanner nos bob nos a phartïo tan 7y bore. Tybed os gai gwrdd ar boi cyn mi heglu hi i nofio efo siarcs fory....(gobeithio wnai'm jibio'i) Mynd i weld Chitza Nitza dydd llun cyn symud ymlaen at Chetumhal er mwyn croesi drosodd i Belize.

Tywydd, poeth a ma'r air con yn y stafell mor uchel ar dril ma gweithwyr ffyrdd yn ddefnyddio i dyllu twll mewn ffordd. Oni bai fod hi mor boeth sw ni di llecho'r blydi thing i'r môr.
 
Hyd yn hyn, wedi wneud ffrindia efo boi o Miami sy'n cerdded o gwmpas mewn trôns calvin klein drwy dydd.  Bachgen o Israel a bachgen arall o Switzerland. A merch sydd wedi bod yn teithio ers dwy flynedd o San Fransico.

Am y traeth. Hwyl 

Friday, 11 July 2014

Quirdeas Hostel

Papa Cenereta!!

Hyd yn hyn, cerdded mewn i bar boi tu ôl i'r bar lecho sbeidar ffêc ar yn nhroed i a dyma fi'n sgrechian dros y bar.  A ista ar ben gyfrwy ceffyl wrth y bar, ha dyna ma pawb yn wneud yn Mecsico yn ôl son.

Hostel, poooooeth! Cawod dwy waith ers cyrredd, mi wnâi ddod i arfer.

Dyma o lunia o'r hostel, adios amigo!!