lot llai, llwyth o hotels mawr crand sydd efo traethau ei hunain. Ond os ddim
yn aros mewn gwesty, mae na bosib talu i ddefnyddio traeth y gwesty am gost o 25dolar. Mae hynny yn cynnwys 5 diod a bwyd a defnyddio pwll nofio a chillio efo models enwog (yn ôl son)
nofio efo siarcs ......
Urrrm wnes i fwynhau nofio efo'r siarcod, anodd egluro ar hwn, ond roedden nhw'n ANFERTH!! Ac yn nofio tuag aton ni efo'i cega yn lled agored. Ac hyn i gyd ar ôl teithio tair awr ar speed boat a gwylio merch yn chwydu holl ffordd, afiach!! Er ar y ffordd adre mi stopiodd y gwch ar ynys hardd a oedd fel paradwys. Lyfli!!
Chichen Itza
Afiach, trip 3 awr a hanner ar fws oedd yn stopio mewn siop oedd wedi cael ei wneud ar gyfer tourists!! Afiach roedd yn llawn trugareddau afiach, cathod hyll a cwn drewllyd, pobl drewllyd a ges i'm
mhigo gan wenyn ar fy mraich a mi chwyddodd fel balŵn cyn i mi allu dweud 'jack shit'.
Wedi hynny taith i Chichen itza, lle poeth llawn mosquitos a toursits blin!! Oni'n hynod o falch o gyrredd yn nôl i'r hostel!!
Diwrnod 4-
Heidio hi i dref o'r enw Playa del carmen!! Magaluf Mexico, un noson buodd ni yno a treuliais rhan fwyaf o'r cyfnod yn gwely neu ar y toilet oherwydd salwch bwyd.
Diwrnod 5/6
Tulum, tref llawn hippies a traethau fel paradwys! Er oni dal yn sal yma hefyd. teuliais diwrnod 5 yn y gwely mewn 2 siwmper a hithau yn 32 gradd tu allan. Diwrnod chwech aethon ni i'r traeth ac i'r mor i ddawnsio, gwych!! Cyn heidio hi o Tulum i Chetumal i ddal y cwch i Caye Caulker.
Caye Caulker
Urmm nefoedd ac uffern yr un lle. Cyrredd a cwbl glywodd ni oedd reggae yn blastio o bob un car, golf buggie. tafarn!! Cyrredd ein hotel a oedd yn hardd ofnadwy, cwt i ni'n hunain efo dŵr poeth a air conditioning ( peth prin)! Hyfryd, er dim ond un noson buodd ni yn yr hotel, cyn symud ymlaen i hostel
o'r enw Dirty McNasty (swnio'n afiach) ond roedd yn le braf ofnadwy!! Er roedd gen i ofn yr rasta's, bob un ohonyn nhw off eu pennau ar gyffuriau ac yn trio gwerthu pob math o gyffuriau i ni!
Noson gyntaf aethon ni i le bach oedd yn wneud pizza's bendigedig a prynu botel o rum a oedd yn rhatach na dŵr!! Wedi i ni yfed hwnnw aethon ni reggae bar ac adre!! Yr ail noson braidd yn mental, aeth sarah yn hollol wallgo, felly roedd rhaid i mi gysgu mewn dorm efo pobl do'n ni'm
yn nabod, er yn y bore mi es i am dro rownd yr ynys a treulio'r diwrnod ar y traeth yn llosgi a nofio!!
Roedd y traeth yn ddiddorol, "y split" oedden nhw'n ei alw oherwydd bu'r ynys dorri'n hanner yn y 40au, oherwydd hurricane! Ac ar y split oedd y traeth neu harbwr a tafarn rili cwl, llawn rastas afiach a pobl efo dannedd metal ( yn ôl son yn arwydd bo gennyn nhw bres) a p.a system a oedd wedi hen farw, sŵn ofnadwy.
Diwrnod wedyn wnes i heidio hi i Flores, Guatemala, taith 10 awr ... mi soniai am fy hantics yn Flores mewn pennod newydd!
No comments:
Post a Comment