Thursday, 4 September 2014

Llŷn Ometepe a gweddill Nicaragua.

Aethon ni i brynu tocynnau ben bore ar gyfer y gwch, a oedd yn gadael Granada am 5yh a oedd am gymryd 5 awr, aaaargh! Ac roedd yn rhaid i dwristiaid gymryd y tocyn first class, oedd ond tua £2.

Ond doedd y gwch yn sicr ddim yn first class, pawb yn eistedd ar lawr concrit, yn rhewi, heb fwyd a diod am 5 awr!! Er ar y gwch ddaru ni gyfarfod a ddwy ferch ofnadwy o ddoniol o Lunden. Laura a oedd yn teithio am byth a'i ffrind George oedd yn teithio am 3 wythnos yn Nicaragua. 

Wel, roedd y gwch yn ddoniol, ddaru ni ganu, cysgu, gwylio ffilm crap. Erbyn i ni gyrredd Ometepe, roedd pawb mor flinedig, oni'n rili bivish a just angen cyrredd fy ngwely, ond doedd gen i'm
gwely. Wnes i rw foi bach orfodi ni aros yn ei westy. 30 yn gefn pick up, yn y tywyllwch efo 20 o bobl eraill, cyrredd gwesty bach budur, ond doedd gen i fawr o awydd chwilio am rwla arall, cysgais 11 awr, newid mewn 5 munud a dal bws i Playa de Amigo yn hanner cysgu. 

Playa de Amigo, aros mewn stafell efo Laura, George, Owen, mewn gwesty bach o'r enw Buenas Vista. Lle bach rili neis, reit wrth droed y llŷn a oedd yn debycach i fôr na llŷn, gan ei fod
mor ANFERTH!! 

Aeth fi, Laura, George am antur ar ôl cyrredd de Amigo. Cerdded ogwmpas yr ynys a chyrredd caffi bach vegan, oedd yn wneud bwyd neis iawn. Er oni mor llwglyd wnes i stopio mewn lle reit
dodjy i fyta ar y ffordd, hehe! Llawn dynion wedi meddwi, ieir a chŵn, ond
duw roedd y bwyd reit neis a dwi dal yn fyw.

 Ar y ffordd nôl ddaru ni hitchio lifft yn gefn pick up i Ocho de laguna, llŷn bach yng nghanol y jungle a yfed coconut rum.

O fanno gafodd ni lifft mewn tuc tuc yn ôl i'r gwesty, motor beic bach efo trelar ar ei gefn oedd yn cyrredd max speed o  20mya, hwyl a sbri yn ein bikinis.

Noson yno ddaru ni yfed lot fawr o rum, rhoi'r byd yn ei le a chwara cardiau, gemau da fyd, oni wrth fy modd efo'r gem estimates (er ddim yn cofio sut i wneud y summs ar y diwedd).

Codi'n fuan bore wedyn a ffwrdd a ni am hike drwy'r jungle i weld volcan Conception. Er , welon ni ddiawl o'm byd ond chydig o fwnciod a gwaelod y volcano. Daria!!

Noson yna, mynd am bryd o fwyd neis lle ges i'r shrimp gora dwi erioed wedi flasu, chwara cardiau a gwely cynnar.

Bore wedyn, roedd hi'n piso bwrw, a ninnau wedi bwriadu mynd am hike fyny'r llosgfynydd lleia ar yr ynys, damia hi! Er aethon ni ar daith yn y glaw drwy'r jungle, gweld mwy o fwnciod ac ambell i dderyn, a wedyn heidio hi i'r llŷn yn y prynhawn.

Wedyn yfed mwy o rum, codi am 5 i ddal y bws i gyrredd y gwch erbyn 7. Er, eto ddaru ni hitchio lifft yn gefn pick up, canu efo criw o Nicaraguans ( dal wedi meddwi) a cyrredd y gwch mewn da bryd.

Ar ol cyrredd yn ol i Rivas, llwyth o ddynion hen yn gwaeddi "TACSI" a finnau efo pen rum. Ond dewision ni y tacsi mwya cwl, oedd yn chwarae Blondie, Abba a Beegies, son am ganu, canu top ein lleisiau efo'r dyn tacsi.

 Wps, dwi wedi anghofio son i le oedden ni'n mynd. Wel oedden ni'n mynd i draeth Maderas, sydd tua 20 munud o San Juan Del Sur. tref parti mawr yn Nicaragua. Roedd Maderas yn llawer mwy calm a neis na San Juan Del Sur. Tra yno cefais wersi syrffo, ac oni'n lot gwell nac oni'n meddwl fyswn i. Wedi hynny oni'n stiff fel procar, felly treuliais y prynhawn yn yfed a chwarae cardiau. Roedd yr hostel lle oedden ni'n aros yn rhyfedd, roedd y lle yn llawn anifeiliaid anwes rhyfedd, fel mochyn, cwningen, cath, iguana a chwn. Roedd y mochyn yn boen yn y pen ol a roedd y gwningen yn mynnu cysgu tu allan i'm stafell wely, felly pan yn codi yn ganol nos i fynd i'r toilet oni'n cael diawl o fraw bob tro.

 Ar ol dwy noson ar y traeth, aethon ni aros yn San Juan Del Sur. Am ryw reswm oni methu cynhesu at y lle, ar ol clywed gymaint o hanes am bartio yno ag ati, oni'n teimlo mae tref i bobl ifanc a PHOBL gwyllt oedd wedi ymgolli yn y lle ar alcohol ers misoedd. Roedd lle aethon ni aros yn lan ac yn neis ac efo pwll nofio tawel ac glan. Treuliais dau ddiwrnod yn San Juan Del Sur, cerdded i weld Iesu Grist efo'r dwy ferch o Lunden a Owen o Gymru, mynd allan am chydig o rums ac wedyn mynd i Costa Rica ar y bws.

No comments:

Post a Comment