Caulker a digwydd bod roedd na fws yn mynd yn uniongyrchol o Belize i Flores. Ar ôl 4 diwrnod go wyllt ym Caye Caulker pendrefynais wneud ychydig
o ddiwrnodau o wersi Sbaeneg, 5 i fod ond wnes i newid i 3 diwrnod gan fod na'm llawer o ddim byd arall i wneud yn Flores, oni bai am Kayakio ar y llŷn ac ymweld â Tikal (wnai sôn mwy am hyn wedyn)
Gwersi Sbaeneg, mewn bar/cafe o'r enw Skye Bar. Lle braf ofnadwy ond yn ystod fy ngwers cyntaf ges i fy mhigo tua 7 gwaith gan forgrug. Serch hyn roedd fy athrawes yn wych. Carmen oedd ei henw ac roedd hi'n byw gyda'i thad a oedd yn 90 oed, dipyn o ryfeddod yn Guatemala. Mae na lawer iawn o bobl yn marw yn Guatemala mewn damweiniau neu wedi eu hanafu yn y rhyfel neu'r fyddin.
Cyfarfodais a merch arbennig iawn tra'n Flores, Lili oedd ei henw o Quebec (French-Canadian). Roedden ni'n rhannu'r un feddylfryd am ba mor bwysig ydy hi i ddysgu ieithoedd gwledydd eraill, er mwyn cwrteisi a derbyn parch pobl leol. Roedd hi'n deall ein sefyllfa ni'n Nghymru o ran yr iaith Gymraeg, maen debyg bod Canadians Saesneg yn gwrthod siarad Ffrangeg yn Quebec, er ei bod hi'n iaith swyddogol, doh!
Buodd y ddwy ohono ni'n cymryd gwersi Sbaeneg, ond fuodd hi wrthi am 5 diwrnod, duw ac ŵyr sut, ond roedd hi'n mynd i nofio yn y llŷn yn ddyddiol ac yn mwynhau stydio yn yr haul, tra oni'n tueddu i ddiogi yn y prynhawn ar ôl 4 awr o Sbaeneg. Er hynny ma gen i lyfr i'm helpu gyda fy Sbaeneg, ac rwyun gobeithio ymarfer mwy yn Nicaragua.
Tra'n Flores, bues i'n kayakio ar y llŷn i le bach oedd gyda rhaffau neidio mewn i'r llŷn. Teulu oedd bia'r lle ac os oeddech chi isio neidio ar y rhaff roedd rhaid talu 10 consales, sydd yn llai na £1. Gwych o le neidio mewn i'r dŵr tra oedd y teulu bach yn chwarae ac yn byw eu bywydau tra roedd na bobl diarth yn cyrraedd ar kayaks i ddefnyddio'i rhaffau. Roedd na hefyd amgueddfa bach ar ynys yng nghanol y llŷn gyda llwyth o drugareddau bach, bues i'm yn fanno oherwydd doedd gen i'm syniad sut y byswn ni'n landio yno ar kayak.
Tra'n kayakio yn ôl at y gwesty fe droedd y tywydd fwyaf sydyn a dechreuodd hi bistillio bwrw glaw a mellt a tharanau. Wannwyl roedd gen i ofn, ond wnaeth Lili a Dave ( Gwyddel sydd yn cael ei alw'n tin tin) edrych ar yn ôl i a dangos i mi sut kayakio go iawn, sef padlo fel rhywbeth ddim yn gall!!!! Dweud gwir, roedd y stori yn fy hatgoffa am stori Tad Leus, pan aeth ar goll yn y niwl mewn kayak ar llŷn Tegid.
Www bues i ar y llŷn ddwywaith, es i ar gwch hefyd a oedd yn mynd o gwmpas y pentrefi eraill ogwmpas y llŷn, taith dwy awr! Ar hon roedd y gang y rwyf wedi bod yn teithio gyda wedi cyrredd, Chris a Kathrine ( cwpl o Lunden) a Ciara, Dave, Glen a Lili. Son am hwyl, stopiodd ni i gael ychydig o cervesas a wedyn gwylio Glen a Chris yn neidio oddi ar raffau y teulu bach. Hwyl a sbri, wedyn aethon ni am bryd o fwyd ( sef y swper olaf) .
Roedd ffarwelio a Chris a Kathrine yn anodd, gan eu bod wedi fy helpu ac wedi bod yn ffeind iawn efo fi, er roedden nhw'n mynd ar chwip o daith 5 gwlad mewn llai na mis. Ond (pero yn sbaeneg) maen nhw'n llwyddo i wneud pob dim fyd chwarae teg iddyn nhw! Unwaith maen nhw wedi gorffen teithio, mi fydden nhw'n symud i fyw i Sydney am BYTH, felly siŵr wnai ddim gweld nhw am sbêl golew.
Diwrnod ar ôl iddyn nhw fynd, penderfynais bod rhaid i mi symud ymlaen o Flores, ac mi es i Tikal ar y dydd Gwener a heidio hi i Semuc Champey ar y dydd Sadwrn.
Be ydy'r Tikal gwirion ma? Medd chi! Wel lle sydd llawn temlau mawr anferth, lle buodd unwaith un o ddinasoedd mwyaf Canolbarth America. Maya oedd yn adeiladu y temlau a oedd wedi cymryd canrifoedd iddynt. Ond roedd ei gwaith yn grefftus ac diben yr adeiladwaith oedd gwneud yn siŵr fod arweinyddion y maya yn cael eu clywed gan bawb oedd yn byw yn y ddinas. Sut? Wel maer ffordd oedden nhw wedi eu hadeiladu yn creu be maen nhw'n alw'n saesneg 'echo' ac os glapiwch chi wrth y teml mae eich clap i glywed yn glir o bron bob un teml, maen anodd iawn i'w egluro ond fedrwch chi gredu pa mor anhygoel oedd hyn.
Y plaza oedd yn anhygoel yn Tikal, fel pentref bach a oeddech chi'n medru dychmygu y Mayas yn byw eu bywydau
yma.
Un peth hynod o ddiddorol a ddysgodd ein tour guide i ni oedd bod pob un Maya hyd heddiw yn cael eu geni gyda spotyn bach glas/ddu ar waelod eu cefnau, sydd yn diflannu wrth dyfu. Dwnim oes oedd hyn yn wir, neu falle oni'n meddwl eu bod yn defnyddio spray defaid i dwyllo y babis bach.
Ar y ffordd i teml 4 ( brenin y temlau) aethon ni am dro bach a dod ar draws toranchila( dim syniad sut i sillafu hwn, ond uffern o bry cop anferth a blewog)! Roedd yn hamddenol braf ac yn ddigon bodlon i ni afael ynddo fo, aaaaargh!
A dyma'n ni'n cyrredd teml 4, brenin y temlau! Cerdded dros 150 o risiau i'r top! Llwyth o demlau i'w gweld dan fôr o goedwig gwyllt.
Wedi i mi ymweld ar temlau, ro'n ni wedi blino swps, dechreuais i ar y daith am 4 y bore er mwyn osgoi'r tywydd poeth a pobl! Ond wedi i mi gyrredd yn ôl roedd rhaid i mi fynd i'n ngwers Sbaeneg olaf, ac ar ôl tri mwg anferth o goffi cryf ro'n ni'n reit ddeffro ac yn barod amdani AMIGA!
Diwrnod wedyn, dyma fi'n dechrau ar fy nhaith i Semuc Champey, lle da meddai nhw ond wannwyl roedd yn uffern o daith o Flores ar fws bach bach llawn pobl mawr, mawr!!



No comments:
Post a Comment