Wednesday, 17 September 2014
Costa Rica
Pendrefynais fy mod i eisiau mynd yn syth i Santa Teresa, ar ochr y mor tawel. Cymrodd o dros 13 awr i mi, erbyn i mi gyrredd Puntarenas, mynd at y gwch a dal bws arall i Santa Teresa ar ben yn hun bach efo chydig o Sbaeneg (oni reit falch o fi fy hun.
Ond roedd cyrredd yr HOSTEL MWYA CWL ERIOED, o'r enw Funky Monkey yn sicr yn werth y daith.
Hostel oedd fel cwt rili posh, ac oni'n cysgu mewn tent/cwt ond roedd y gwelyau yn hyfryd ar stafell molchi.
Bob nos Sadwrn oedden nhw'n cael parti sushi, a dyma'r sushi neisia i mi erioed ei flasu. Roedd y pentref i gyd yn dod i Funky Monkey ar nos sadwrn i yfed a byta sushi, roedd yr awyrgylch yn gret.
Wnes i'm llawer o ddim byd yn ystod y dydd, dim ond torheulo wrth y pwll, siarad efo Americanwyr , gan fod na gymaint ohonyn nhw yn Costa Rica!!!! Wir roedd Costa Rica yn teimlo fel maes chwarae i Americanwyr.
O Funky Monkey, es i Montarverde. Pentref fyny yn y mynyddoedd uwchben y cloud forest, fel oedden nhw yn ei alw.
Es i yno efo Gjis boi o'r Iseldiroedd yn wedi bod yn teithio America a Costa Rica ers deufis. Roedd y daith yn un reit cwl, aethon ni ar ferry a gweld dolffin a dynion wedi meddwi. Ar y ffordd i'r ferry roedd na streic ar y ffordd, pobl yn prostestio i gael ffyrdd gwell yn Costa Rica. Roedd rhaid i mi gytuno bod angen ffyrdd gwell yno. Ta, waeth roedd y ffordd wedi cau a pawb yn dechrau poeni eu bod am fethu'r gwch, ond daeth Maer Santa Teresa a un heddwas at y protest, ac o fewn 2 funud roedd y ffordd yn gorad unwaith eto.
7 awr yn ddiweddarach, cyrhaeddodd ni Montarverde. Lle oer ond braf oedd cysgu mewn pyjamas gwisgo dillad cynnes. Noson gyntaf aethon ni gwely am 8 o'r gloch nos. Roedden ni fod i wneud y zipline dros y cloud forest drannoeth, ond roedd hi'n piso bwrw a doedd gen i fawr o awydd cael sociad. Felly arhosom ni 3 noson yn hytrach na dau, a meddwi efo rw ferched o Iwerddon/Llunden. Noson dda o gysidro na dim ond un tafarn oedd yn Montarverde.
Bore wedyn aethon ni ar y zipline, oni'n cachu'n hun, mae genai gymaint o ofn uchder ac oni'n hedfan dros y cloud forest, yn wneud tua 75mya. Ond wnes i wneud efo guide, gan bod genai gymaint o ofn ond wnes i fwynhau yn arw a roedd yr olygfa yn un wnai fyth anghofio.
Noson yna aethon ni i gwely yn gynnar eto a symud ymlaen i'r lle nesa sef La Fortuna, Volcan Arenal.
Roedd y daith i La Fortuna yn hyfryd, bws wedyn cwch wedyn bws eto. Roedd y gwch yn mynd ar hyd Llyn Arenal, lle roedd yn bosib gweld Volcano Arenal, sef yr llosgfynydd mwya active yn y byd. Mi ffrwydrodd ddiwethaf yn 2003.
Arhoson ni mewn hostel 5 seren, efo pwll nofio, air con a cawod poeth, roedd hyn yn rhywbeth newydd i mi.
Yr unig beth wnes i yn La Fortuna oedd mynd i'r hot springs, yfed a cysgu wrth y pwll. Doedd gen i fawr o awydd mynd am hike, ar ol bod fyny ambell i losgfynydd yn Nicaragua a Guatemala.
Roedd y daith nesaf yn un epic, oni fod i fynd i Manuel Antonio, sef parc cenedlaethol ar ochr y mor tawel yn Costa Rica, ond es i efo'r hogia i Puerto Viejo. Gan eu bod yn meddwl fod gynnyn nhw fws direct i Puerto Viejo, ond roedd na ddau Puerto Viejo yn Costa Rica, un yn y Gogledd ac un reit lawr yn y gwaelod ar ochr y caribi *sef yr un oedden ni isio mynd iddo*. Dyla bo fi wedi mynd i Manuel Antonio wir dduw, 5 bws a 18 awr yn ddiweddarch cyrhaeddon ni Puerto Viejo, lle roedd bob Hostel yn llawn. Ond arhosom ni mewn hotel am un noson,
Roedd Puerto Viejo yn iawn de, roedd na bysgod neis yna.... wnai son am y dyn pysgod heno! Wedi bod yn teipio non stop ers awr, dwi yma i fwynhau nid sgwennu traethawd wedi'r cwbl.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment