Ffwrdd a ni (fi a Owen boi o Gymru oni'n teithio efo am cyfanswm o fis) i ddal y bws i Managua (prifddinas Nica)! Lle hyll, drewllyd a phrysur. Dal bws bach a gymerodd awr o Leon i Granada, llawn i'r ymylon ond llwyddodd tua 3 person i ddod ar y bws i werthu mangoooo! Doniol, ar bob bws mae gynnoch chi rywun yn gwerthu mango ac yn dweud "Mango, mango very tasty, yum yum" doniol.
Wedyn o Managua, aeth a rw foi a fy mag a rhoi fi i eistedd ar fws a mynd a fi holl ffordd i Granada, efo Owen. Chapmion a mi gostiodd y daith cyfa' tua £2, champion.
Yn Granada ddaru ni aros yn hostel Oasis, lyfli o le efo pwll nofio. Ond do'n ni'm yn or-hoff o Granada fel lle, llawn siopau a bwytai posh yn arbennig i dwristiaid. Er roedd na lawer o sioeau tan, sioeau dawnsio stryd ar y stryd a oedd yn dda iawn.
Yn Granada wnaethon ni'm llawer o ddim
byd dim ond yfed, gweld tua 4 eglwys. Doedd na fawr o'm byd arall i wneud, lle reit ddiflas ond hardd hefyd;
mor dlawd oedd Nicaragua. I mi oedd y gwrthgyferbyniad rhwng y bwytai posh, marchnad i dwristiaid ar plant a phobl tlawd ar y stryd yn ormod. Gwelwyd yn glir bod 'na broblemau cymdeithasol, plant yn sniffio glud ar y stryd ac ati, llawer iawn o ddynion yn trin merched yn anheg, gan gynnwys rhai ohono ni.
Er wnaethon ni gael hwyl, roedd na griw da ohono ni yn yr hostel, rhai o
ni di gyfarfod yn Guatemala. Wnaethon ni goginio bwyd er mwyn osgoi mynd i'r bwytai posh.
Next stop - Llŷn Ometepe! Wel sôn am hwyl.

No comments:
Post a Comment