Saturday, 23 August 2014

Leon.


Arhosais yn un o'r hostels gora dwi erioed wedi aros, lazybones! £4 y noson, gan gynnwys pwll nofio, gwely a choffi a te yn y bore.

Yno wnes i gyfarfod Phoebe a Chuck, un o Loegr (phoebe) a Chuck o Efrog Newydd. Dau berson clen a chyfeillgar oedd wedi bod yn teithio ers misoedd ac wedi cyrredd pwynt o fod mewn limbo, er wnes i lwyddo i godi eu calonau dwin meddwl a wneud iddyn nhw yfed a nofio a dysgu mwy am Leon.

Leon,  dechreuodd y chwyldro yn Nicaragua, lle bu helynt rhwng y sosialwyr ar Somoza (Ceidwadwyr eithafol). Dechreuodd yr chwyldro yn 1961 pan ddechreuodd y myfyriwr Carlos Foncesca wneud gwaith ymchwil ar hen wleidyddiaeth un o arwyr Nicaragua sef Sandino, dechreuodd  yr FSLN, sef y blaid democrataidd, chwyldroadol sydd bellach yn rhedeg y wlad er 2005.

Yn ystod y chwyldro, roedd merched yn hynod ddylanwadol ac yn rhan allweddol o'r chwyldro. Dywed nifer na fuasent wedi ennill y chwyldro oni bai am y merched, ei da nhw! 

Dyma yr unig beth wnes i ar fy niwrnod cyntaf yn Nicaragua, Leon. Roedd Leon yn brydferth ond yn ofandwy o boeth, mucho caliente, felly treuliais mwyafrif o fy amser yn y pwll nofio yn yr hostel. Ac yno cyfarfodais ar llydawyr, criw grêt o bobl
oedd yn mwynhau bwyta ac yfed wrth y pwll. 

Dwi'n meddwl ar fy nhrydedd diwrnod wnes i'r volcano boarding. Gwych ond oni'n hoples ac efo gymaint o
ofn disgyn wnes i mi orfod ddod oddi ar y trac gan bo' fi mor araf deg ac yn rhwystro eraill rhag fynd lawr y trac, embarassing!! Felly roedd rhaid i mi gerdded hanner ffordd lawr y volcano.

Dyma lun o'r volcano; 

Argh, roedd cerdded fyny efo'r board yn ddipyn o sialens, er rhaid dweud nath yr instructor gario fy mwrdd i, hehe!!

Roedd yr hogla ar ben yr volcano yn rhyfedd, fel sulphur, glo a thân.

Ar y ffordd i'r volcano, roedd y daith yn cŵl, cefn pick up, drwy ffermydd a phentrefi bach gwledig. Ro'n ni wrth fy modd, dweud gwir roedd rhan fwyaf o'r
teithio wnes i'n Nicaragua ar gefn pick up, lot o hwyl. 

Noson yna, aethon ni allan a ryw sut arhosais i fyny efo'r llydawyr yn siarad Sbaeneg efo nhw tan 3 y bore, pwy a wyr be oni'n ddweud wrthyn nhw!! 

Diwrnod wedyn ar ôl clywed y seiren mi ddeffrais a es i'r pwll. Yn y prynhawn es i siopa yn yr archfarchnad. Ma archfarchnadoedd Canolbarth America yn cynnwys pob dim, bach fel Tesco Extra. 

Ar ôl siop fach, mentrais i ben yr Eglwys Gadeiriol. Tipyn o dasg oedd trio ffeindio y dyn/dynes oedd yn gwerthu'r tocynnau. Bues i drwy tua 10 drws a doedd dim son am nunlle i brynu tocyn, cyrraedd drws rhif 11 a dyna lle oedd na lwyth o fanacins o Iesu Grist, a dynes fach yn gwerthu tocynnau.

Roedd cyrraedd top yr Eglwys Gadeiriol fel cerdded o gwmpas maze o risiau bach. Ond roedd cyrraedd top yn sicr gwerth y chwilio. Er dechreuais i gerdded ar ben y to a dyma'r dyn bach tenau 'ma yn rhoi uffern o ffrae i mi am beidio tynnu fy sgidia, am ei bod newydd baentio y to yn hollol wyn.


Monday, 18 August 2014

Nicaragua!

Dechreuais ar fy nhaith o Antigua i Nicaragua am 1:30 y bore. Dyn bach mewn car swish iawn bigo fi fyny ac mynd a fi i westy swish yn Ninas Guatemala ( un o'r llefydd mwya peryglus yn y byd, bob un siop, banc a chaffi efo dyn yn sefyll tu allan efo gŵn) ac o fanno mi ddalis i fws i Nicaragua, bws o'r enw Sol.

Uffern o fws posh, ond roedd yr air
conditioing yn mynd ar fy nerfau, oni'n rhewi. A pan ddeffrodd y ddynes ar y bws mi yn y bore oherwydd roedd hi isio fy mlanced yn ôl roedd bron i mi ei slapio cyn sylweddoli fod gynna i fleece a chardigan yn fy mag.

Ta waeth, prif bwynt fy stori ydy bod bachgen o Ganada yn teithio efo fi a oedd yn andros o annoying. pwrpas fy nhaith oedd cyrredd Managua wedyn mynd i Leon mewn tacsi. Dywedodd y Canadian fod y bws yn mynd i Leon, gofynnais i'r dreifar a doedd y bws fel oni'n gwybod ddim yn mynd i Leon. Wedyn dywedodd wrtha i am fynd ffwrdd i Estelli a bwcio tacsi i Leon, am ei fod yn rhatach, ond doedd o ddim. Felly er mwyn cau ei geg be wnes i oedd gofyn i rw Nicaraguan oedd yn byw yn Estelli i fwcio tacsi i mi o Managua i Leon, a mi wnaeth a pan gyrhaeddis i Managua roedd y dyn tacsi yn sefyll yna efo darn o bapur efo fy enw wedi ei sillafu yn gywir, mewn word art , anhygoel! A wnes i godi dau fys ar y Canadian,ha! 

Aeth y bws a fi holl ffordd ac at stepan drws fy hostel, sef lazybones. Cyrredd tua 8y hwyr a mi gysgais tan 7 y bore, ar ôl clywed y seiran. 

Y Serian
Pwrpas y seiren ydy i ddeffro pobl Leon am 7 y bore , er mwyn mynd i gwaith. 

12dydd maer seiren yn mynd er mwyn i bawb wybod bod hi'n amser cinio.

6 o'r gloch i ddathlu fod pawb wedi gorffen gwaith am y dydd (dim pawb ond mwyafrif dwi'n siŵr) .

A dyna hanes y seiren.
Mwy i ddod, ond maen braf a dwi'n eistedd yn wneud dim byd, hwyl fawr!!

San Pedro


iTref bach ar ochr llŷn atitlan yw San Pedro. Llawn hippies a lot o ladron. Lle da, ond roedd rhaid bod yn ofalus. 

Doedd fy ffrindia' ddim mor
lwcus ac oni, yn anffodus. Aethon nhw ar  y mynydd ben bore i weld yr haul yn codi dros llŷn Atitlan ac torrodd rywun mewn i'w stafelloedd a dwyn eu holl arian, daria nhw! Ond roedd y perchenog yn ddyn neis iawn ac talodd yr holl bres a ddygwyd yn ôl iddynt, da de??!! A ddudis i wrtha fo bod angen iddo fo osod lockers, ac mae ei hostel ef oedd y cyntaf i mi fod mewn heb locker. Er wedi hynny dwi heb weld locker yn nunlle oni bai am lazybones (hostel yn leon) a Oasis (Granada)

Ta waeth san pedro, ar y nos wener ddaru ni gymryd rhan mewn cwis a oedd efo tua 200 o bobl wedi sgwashio mewn bar oedd yn dal tua 50 yn unig. Rhai o'r sialensau oedd neidio mewn i'r llŷn a ennill 1000 consolas, sef tua ...78punt. Llwyth o bres yn Guatemala, gan fod stafell mewn hostel ond tua £3 y noson, bargen.

Sialens arall oedd taro'r tarw ar y bwrdd darts o flaen 200 o bobl. 

A wedyn llwyth o gwestiynau, mi ddysgais bod horsefish yn medru storio bwyd yn ei gynffon, na Saesneg ydy'r iaith efo mwyaf o eiriau yn y byd. sydd yn wneud synnwyr gan nad yw yn iaith pur.

A dyna wnaethon ni y noson gyntaf!! Dydd Sadwrn wnes i godi'n gynnar a mynd drosodd i San Marcos. Pentref neu dref arall ar ochr y llŷn, oedd llawn hippies yn wneud yoga. 

Ac yna mwyaf sydyn, es i i deimlo yn ddiawl o sal, a dechreuais deimlo'n saaaal. Felly ffwrdd a fi i chwilio am hammoc i gysgu, syrthio'i gysgu yn yr hammoc a oedd yn yr ardd yn y gwesty crand ma oedd yn llawn pobl cyfaethog ofnadwy. Mi ddeffrais yn teimlo 10 gwaith gwaeth, ond wrth ddisgyn allan o'r hammock disgynnais a baglu mewn i ddynes oedd yn nyrs a rhoddodd dabledi i mi allu mynd yn ôl ar y gwch i San Pedro. Pan gyrhaeddais San
Pedro, dechreuais chwydu a chwydu fues i am bron i ddeuddeg awr, awtsh!! Serch hynny, mi ddeffrais ben bore (4am) i fynd fyny yr Indian Nose, mynydd eithaf anodd i gyrredd ond roedd y golygfeydd yn anhygoel SBIWCH?? 


A dyna fo'n San Pedro rili, byta cinio a mynd am goffi efo dwy ferch o America a wedyn nôl i Antigua ar fws 4 awr. 

Cyrredd Antigua a roedd Dave y Gwyddel sy'n edrych fel Tin Tin wedi bwcio stafell breifet i mi mewn hostel oherwydd fy mod wedi bod yn sal, y salwch a gefais gynno fo i ddweud y gwir. 

Dydd o chwiolta yn y farchnad a noson o goginio pasta (sydd i fod yn hawdd) ond gollyngodd Sabina (merch o Lunden/Glasgow/Caeredin/Rwsia) y pasta ar y llawr a roedd rhaid nôl mwy o basta. Doedd dim un archfarchnad yn gwerthu aguacetaaaaaaa (avocado) felly ffwrdd a ni i'r farchnad i chwilio am aguacetaaaaaaa, sialens a hanner achos doedd dim un AGUAEFFINCETAAA yn ddigon da i Sabina, ond daethon ni o hyd i ddau a coginioddd Shaun ( boi o Sandiego, California) un o'r guacamoles gora dwi erioed wedi gael, yuuum. Ar pasta hefyd dweud gwir.

Wedyn es i'r gwely, cyn cychwyn ar fy nhaith 18 awr i Nicaragua ....dy dy dyyyyyy!!

Wednesday, 6 August 2014

Semuc Champey , Lanquin



Semuc champey, trio ffeindio llun wel dyma lun, o'r mirador (view point)! Roedd na rhai ohono ni'n ddigon gwallgof i fynd o dan y ddaear i'r ogofau am awr a hanner gyda gola cannwyll yn unig, wnes i jibio'i ar ôl noson fawr yn sephyr lodge doedd gen i'm awydd bod o dan ddaear yn clostrophobic i gyd! Serch hyn wnes i gerdded i dop y mirador a nofio a sleidio o bwll i bwll, hyfryd.

Sephyr lodge oedd enw'r lle ro'n ni'n aros yn Lanquin! Hyfryd o le yng nghanol y jungle ar ben mynydd reit wrth ymyl yr afon! Ro'n i'n aros mewn cwt a oedd yn llawn bob math o bryfed a welis i ambell i lizard a un pry cop anferth tua seis fy nghiwcymbyrs yn y tŷ gwydyr. 

Cyfarfodais a ambell i Saes yma rhai neis iawn ac bachgen o California o'r enw Shaun a oedd yn athro mathemateg. Bues i'n teithio i Antigua a Llŷn Atitlan gyda fo a Dave (tin tin gwyddelig). 

Roedd y daith o semuc champey i Antigua yn ddipyn o daith. Cyrhaeddodd y bws lleia welis i erioed tu allan i sephyr lodge gyda tua 14 o bobl mawr a bach yn aros i fynd arna fo. Ar ôl i ni gyd stwffio mewn i'r bws bach ma, gwaeddodd y dyn bws "pinchaso". Damia,  roedd gynnon ni deiar fflat cyn cychwyn, pawb stwffio allan a gadael i'r dyn bach newid yr unig deiar sbâr oedd gynnon ni, dechreuon ni weddio na fydden ni'n cael teiar fflat arall!! 

Ta waeth stwffio yn ôl ar y bws ac agor bob un ffenest a ffwrdd a ni. Dau funud mewn i'n taith, stopio mewn garej i roi rhagor o aer yn y teiars!! Cymrodd hyn tua 10 munud!! Wedyn ffwrdd a ni am yr ail dro a oedd yn llwyddiannus diolch byth!!! Ambell i stop ar y ffordd i fynd i'r toilet a ballu a bwyd. Oh ia,  stopio yn mcdonalds i bigo ffôn rw foi oedd yn byw yn Llunden i fyny, hollol random, ei enw oedd Tom.

A cyrredd Antigua tua 6 o'r
gloch yn stiff fel procar, llwglyd a chysglyd! Cyrredd fy hostel, jungle party a oedd yn neis iawn, cyn i mi gyrredd y gwely a oedd yn swnllyd iawn!! Bob tro oni'n symud neu anadlu roedd y gwely yn sgrechian, ych a fi! Er arhosais tair noson yma efo criw i fechgyn o Loegr yn rwla a oedd yn gwneud wythnos o wersi Sbaeneg, mynd ar lwyth o dêts a oedd yn reit doniol, achos bob bore oni'n cael clywed yr hanes i gyd. 

Antigua, dinas bach oedd gyda golygfeydd o'r llosgfynyddoedd a oedd yn amgylchynu'r ddinas, roedden nhw fel corn simdde i'r ddinas. Yn Antigua ma gynnoch chi pob dim, llosgfynyddoedd, siopau, archfarchnadoedd, marchnadoedd a llwyth o amgueddfeydd.

 Tra fues i yno es i'r farchnad artisan, marchnad rili cŵl llawn bob math o drugareddau, dillad lliwgar, hammocks, bagiau lledr, sbectolau haul, bwyd a phobl drewllyd! Roedd na lot o heddlu yno efo gynnau anferth, felly oni'n teimlo'n reit ddiogel. 

Yr ail ddiwrnod, es i ben llosgfynydd o'r enw Pacaya. Llosgfynydd byw, efo llwyth o lava poeth yn dod allan ohono. Cymrodd tua awr i gerdded i'r top, awr o chwysu a siarad gyda dynes o America a oedd wedi bod yn edrych ar ôl anifeiliaid ar ynys yn Flores am 5 wythnos!! Roedd hi wrth ei bodd efo anifeiliaid.

Cyrredd y top ac estynnodd y guide lwyth o marshmallows i ni gael
eu toddi a'u bwyta! Cymrodd o tua 2 funud i mi doddo fy marshamallows, ond roedden nhw'n flasus tu hwnt. 

Dyma chydig o lunia i chi; 



Cyrredd yn ôl i'r hostel, un cuba libre, un pitsa a wedyn syth yn ôl i'r gwely!! Mwy o hanes i ddod!! 

Tuesday, 5 August 2014

Guatemala!

Dechreuais i'n Flores, pam fanno? Wel oherwydd dyma'r lle gora i gyrredd ar ôl bod ar Ynys mor wyllt gacwn a Caye
Caulker a digwydd bod roedd na fws yn mynd yn uniongyrchol o Belize i Flores. Ar ôl 4 diwrnod go wyllt ym Caye Caulker pendrefynais wneud ychydig
o ddiwrnodau o wersi Sbaeneg, 5 i fod ond wnes i newid i 3 diwrnod gan fod na'm llawer o ddim byd arall i wneud yn Flores, oni bai am Kayakio ar y llŷn ac ymweld â Tikal (wnai sôn mwy am hyn wedyn)

Gwersi Sbaeneg, mewn bar/cafe o'r enw Skye Bar. Lle braf ofnadwy ond yn ystod fy ngwers cyntaf ges i fy mhigo tua 7 gwaith gan forgrug. Serch hyn roedd fy athrawes yn wych. Carmen oedd ei henw ac roedd hi'n byw gyda'i thad a oedd yn 90 oed, dipyn o ryfeddod yn Guatemala. Mae na lawer iawn o bobl yn marw yn Guatemala mewn damweiniau neu wedi eu hanafu yn y rhyfel neu'r fyddin.

Cyfarfodais a merch arbennig iawn tra'n Flores, Lili oedd ei henw o Quebec (French-Canadian). Roedden ni'n rhannu'r un feddylfryd am ba mor bwysig ydy hi i ddysgu ieithoedd gwledydd eraill, er mwyn cwrteisi a derbyn parch pobl leol. Roedd hi'n deall ein sefyllfa ni'n Nghymru o ran yr iaith Gymraeg, maen debyg bod Canadians Saesneg yn gwrthod siarad Ffrangeg yn Quebec, er ei bod hi'n iaith swyddogol, doh!

Buodd y ddwy ohono ni'n cymryd gwersi Sbaeneg, ond fuodd hi wrthi am 5 diwrnod, duw ac ŵyr sut, ond roedd hi'n  mynd i nofio yn y llŷn yn ddyddiol ac yn mwynhau stydio yn yr haul, tra oni'n tueddu i ddiogi yn y prynhawn ar ôl 4 awr o Sbaeneg. Er hynny ma gen i lyfr i'm helpu gyda fy Sbaeneg, ac rwyun gobeithio ymarfer mwy yn Nicaragua.

Tra'n Flores, bues i'n kayakio ar y llŷn i le bach oedd gyda rhaffau neidio mewn i'r llŷn. Teulu oedd bia'r lle ac os oeddech chi isio neidio ar y rhaff roedd rhaid talu 10 consales, sydd yn llai na £1. Gwych o le neidio mewn i'r dŵr tra oedd y teulu bach yn chwarae ac yn byw eu bywydau tra roedd na bobl diarth yn cyrraedd ar kayaks i ddefnyddio'i rhaffau. Roedd na hefyd amgueddfa bach ar ynys yng nghanol y llŷn gyda llwyth o drugareddau bach, bues i'm yn fanno oherwydd doedd gen i'm syniad sut y byswn ni'n landio yno ar kayak.

Tra'n kayakio yn ôl at y gwesty fe droedd y tywydd fwyaf sydyn a dechreuodd hi bistillio bwrw glaw a mellt a tharanau. Wannwyl roedd gen i ofn, ond wnaeth Lili a Dave ( Gwyddel sydd yn cael ei alw'n tin tin) edrych ar yn ôl i a dangos i mi sut  kayakio go iawn, sef padlo fel rhywbeth ddim yn gall!!!! Dweud gwir, roedd y stori yn fy hatgoffa am stori Tad Leus, pan aeth ar goll yn y niwl mewn kayak ar  llŷn Tegid.
 
Www bues i ar y llŷn ddwywaith, es i ar gwch hefyd a oedd yn mynd o gwmpas y pentrefi eraill ogwmpas y llŷn, taith dwy awr! Ar hon roedd y gang y rwyf wedi bod yn teithio gyda wedi cyrredd, Chris a Kathrine ( cwpl o Lunden) a Ciara, Dave, Glen a Lili.  Son am hwyl, stopiodd ni i gael ychydig o cervesas a wedyn gwylio Glen a Chris yn neidio oddi ar raffau y teulu bach. Hwyl a sbri, wedyn aethon ni am bryd o fwyd ( sef y swper olaf) .

Roedd ffarwelio a Chris a Kathrine yn anodd, gan eu bod wedi fy helpu ac wedi bod yn ffeind iawn efo fi, er roedden nhw'n mynd ar chwip o daith 5 gwlad mewn llai na mis.  Ond (pero yn sbaeneg) maen nhw'n llwyddo i wneud pob dim fyd chwarae teg iddyn nhw! Unwaith maen nhw wedi gorffen teithio, mi fydden nhw'n symud i fyw i Sydney am BYTH, felly siŵr wnai ddim gweld nhw am sbêl golew.

Diwrnod ar ôl iddyn nhw fynd, penderfynais bod rhaid i mi symud ymlaen o Flores, ac mi es i Tikal ar y dydd Gwener a heidio hi i Semuc Champey ar y dydd Sadwrn.

Be ydy'r Tikal gwirion ma? Medd chi! Wel lle sydd llawn temlau mawr anferth, lle buodd unwaith un o ddinasoedd mwyaf Canolbarth America. Maya oedd yn adeiladu y temlau a oedd wedi cymryd canrifoedd iddynt. Ond roedd ei gwaith yn grefftus ac diben yr adeiladwaith oedd gwneud yn siŵr fod arweinyddion y maya yn cael eu clywed gan bawb oedd yn byw yn y ddinas. Sut? Wel maer ffordd oedden nhw wedi eu hadeiladu yn creu be maen nhw'n alw'n saesneg 'echo' ac os glapiwch chi wrth y teml mae eich clap i glywed yn glir o bron bob un teml, maen anodd iawn i'w egluro ond fedrwch chi gredu pa mor anhygoel oedd  hyn.

Y plaza oedd yn anhygoel yn Tikal, fel pentref bach a oeddech chi'n medru dychmygu y Mayas yn byw eu bywydau 
yma.


 Un peth hynod o ddiddorol a ddysgodd ein tour guide i ni oedd bod pob un Maya hyd heddiw yn cael eu geni gyda spotyn bach glas/ddu ar waelod eu cefnau, sydd yn diflannu wrth dyfu. Dwnim oes oedd hyn yn wir, neu falle oni'n meddwl eu bod yn defnyddio spray defaid i dwyllo y babis bach. 

Ar y ffordd i teml 4 ( brenin y temlau) aethon ni am dro bach a dod ar draws toranchila( dim syniad sut i sillafu hwn, ond uffern o bry cop anferth a blewog)! Roedd yn hamddenol braf ac yn ddigon bodlon i ni afael ynddo fo, aaaaargh!

A dyma'n ni'n cyrredd teml 4, brenin y temlau!  Cerdded dros 150 o risiau i'r top! Llwyth o demlau i'w gweld dan fôr o goedwig gwyllt.


Wedi i mi ymweld ar temlau, ro'n ni wedi blino swps, dechreuais i ar y daith am 4 y bore er mwyn osgoi'r tywydd poeth a pobl! Ond wedi i mi gyrredd yn ôl roedd rhaid i mi fynd i'n ngwers Sbaeneg olaf, ac ar ôl tri mwg anferth o goffi cryf ro'n ni'n reit ddeffro ac yn barod amdani AMIGA!

Diwrnod wedyn, dyma fi'n dechrau ar fy nhaith i Semuc Champey, lle da meddai nhw ond wannwyl roedd yn uffern o daith o Flores ar fws bach bach llawn pobl mawr, mawr!!