Saturday, 23 August 2014

Leon.


Arhosais yn un o'r hostels gora dwi erioed wedi aros, lazybones! £4 y noson, gan gynnwys pwll nofio, gwely a choffi a te yn y bore.

Yno wnes i gyfarfod Phoebe a Chuck, un o Loegr (phoebe) a Chuck o Efrog Newydd. Dau berson clen a chyfeillgar oedd wedi bod yn teithio ers misoedd ac wedi cyrredd pwynt o fod mewn limbo, er wnes i lwyddo i godi eu calonau dwin meddwl a wneud iddyn nhw yfed a nofio a dysgu mwy am Leon.

Leon,  dechreuodd y chwyldro yn Nicaragua, lle bu helynt rhwng y sosialwyr ar Somoza (Ceidwadwyr eithafol). Dechreuodd yr chwyldro yn 1961 pan ddechreuodd y myfyriwr Carlos Foncesca wneud gwaith ymchwil ar hen wleidyddiaeth un o arwyr Nicaragua sef Sandino, dechreuodd  yr FSLN, sef y blaid democrataidd, chwyldroadol sydd bellach yn rhedeg y wlad er 2005.

Yn ystod y chwyldro, roedd merched yn hynod ddylanwadol ac yn rhan allweddol o'r chwyldro. Dywed nifer na fuasent wedi ennill y chwyldro oni bai am y merched, ei da nhw! 

Dyma yr unig beth wnes i ar fy niwrnod cyntaf yn Nicaragua, Leon. Roedd Leon yn brydferth ond yn ofandwy o boeth, mucho caliente, felly treuliais mwyafrif o fy amser yn y pwll nofio yn yr hostel. Ac yno cyfarfodais ar llydawyr, criw grêt o bobl
oedd yn mwynhau bwyta ac yfed wrth y pwll. 

Dwi'n meddwl ar fy nhrydedd diwrnod wnes i'r volcano boarding. Gwych ond oni'n hoples ac efo gymaint o
ofn disgyn wnes i mi orfod ddod oddi ar y trac gan bo' fi mor araf deg ac yn rhwystro eraill rhag fynd lawr y trac, embarassing!! Felly roedd rhaid i mi gerdded hanner ffordd lawr y volcano.

Dyma lun o'r volcano; 

Argh, roedd cerdded fyny efo'r board yn ddipyn o sialens, er rhaid dweud nath yr instructor gario fy mwrdd i, hehe!!

Roedd yr hogla ar ben yr volcano yn rhyfedd, fel sulphur, glo a thân.

Ar y ffordd i'r volcano, roedd y daith yn cŵl, cefn pick up, drwy ffermydd a phentrefi bach gwledig. Ro'n ni wrth fy modd, dweud gwir roedd rhan fwyaf o'r
teithio wnes i'n Nicaragua ar gefn pick up, lot o hwyl. 

Noson yna, aethon ni allan a ryw sut arhosais i fyny efo'r llydawyr yn siarad Sbaeneg efo nhw tan 3 y bore, pwy a wyr be oni'n ddweud wrthyn nhw!! 

Diwrnod wedyn ar ôl clywed y seiren mi ddeffrais a es i'r pwll. Yn y prynhawn es i siopa yn yr archfarchnad. Ma archfarchnadoedd Canolbarth America yn cynnwys pob dim, bach fel Tesco Extra. 

Ar ôl siop fach, mentrais i ben yr Eglwys Gadeiriol. Tipyn o dasg oedd trio ffeindio y dyn/dynes oedd yn gwerthu'r tocynnau. Bues i drwy tua 10 drws a doedd dim son am nunlle i brynu tocyn, cyrraedd drws rhif 11 a dyna lle oedd na lwyth o fanacins o Iesu Grist, a dynes fach yn gwerthu tocynnau.

Roedd cyrraedd top yr Eglwys Gadeiriol fel cerdded o gwmpas maze o risiau bach. Ond roedd cyrraedd top yn sicr gwerth y chwilio. Er dechreuais i gerdded ar ben y to a dyma'r dyn bach tenau 'ma yn rhoi uffern o ffrae i mi am beidio tynnu fy sgidia, am ei bod newydd baentio y to yn hollol wyn.


No comments:

Post a Comment