
Sephyr lodge oedd enw'r lle ro'n ni'n aros yn Lanquin! Hyfryd o le yng nghanol y jungle ar ben mynydd reit wrth ymyl yr afon! Ro'n i'n aros mewn cwt a oedd yn llawn bob math o bryfed a welis i ambell i lizard a un pry cop anferth tua seis fy nghiwcymbyrs yn y tŷ gwydyr.
Cyfarfodais a ambell i Saes yma rhai neis iawn ac bachgen o California o'r enw Shaun a oedd yn athro mathemateg. Bues i'n teithio i Antigua a Llŷn Atitlan gyda fo a Dave (tin tin gwyddelig).
Roedd y daith o semuc champey i Antigua yn ddipyn o daith. Cyrhaeddodd y bws lleia welis i erioed tu allan i sephyr lodge gyda tua 14 o bobl mawr a bach yn aros i fynd arna fo. Ar ôl i ni gyd stwffio mewn i'r bws bach ma, gwaeddodd y dyn bws "pinchaso". Damia, roedd gynnon ni deiar fflat cyn cychwyn, pawb stwffio allan a gadael i'r dyn bach newid yr unig deiar sbâr oedd gynnon ni, dechreuon ni weddio na fydden ni'n cael teiar fflat arall!!
Ta waeth stwffio yn ôl ar y bws ac agor bob un ffenest a ffwrdd a ni. Dau funud mewn i'n taith, stopio mewn garej i roi rhagor o aer yn y teiars!! Cymrodd hyn tua 10 munud!! Wedyn ffwrdd a ni am yr ail dro a oedd yn llwyddiannus diolch byth!!! Ambell i stop ar y ffordd i fynd i'r toilet a ballu a bwyd. Oh ia, stopio yn mcdonalds i bigo ffôn rw foi oedd yn byw yn Llunden i fyny, hollol random, ei enw oedd Tom.
A cyrredd Antigua tua 6 o'r
gloch yn stiff fel procar, llwglyd a chysglyd! Cyrredd fy hostel, jungle party a oedd yn neis iawn, cyn i mi gyrredd y gwely a oedd yn swnllyd iawn!! Bob tro oni'n symud neu anadlu roedd y gwely yn sgrechian, ych a fi! Er arhosais tair noson yma efo criw i fechgyn o Loegr yn rwla a oedd yn gwneud wythnos o wersi Sbaeneg, mynd ar lwyth o dêts a oedd yn reit doniol, achos bob bore oni'n cael clywed yr hanes i gyd.
Antigua, dinas bach oedd gyda golygfeydd o'r llosgfynyddoedd a oedd yn amgylchynu'r ddinas, roedden nhw fel corn simdde i'r ddinas. Yn Antigua ma gynnoch chi pob dim, llosgfynyddoedd, siopau, archfarchnadoedd, marchnadoedd a llwyth o amgueddfeydd.
Tra fues i yno es i'r farchnad artisan, marchnad rili cŵl llawn bob math o drugareddau, dillad lliwgar, hammocks, bagiau lledr, sbectolau haul, bwyd a phobl drewllyd! Roedd na lot o heddlu yno efo gynnau anferth, felly oni'n teimlo'n reit ddiogel.
Yr ail ddiwrnod, es i ben llosgfynydd o'r enw Pacaya. Llosgfynydd byw, efo llwyth o lava poeth yn dod allan ohono. Cymrodd tua awr i gerdded i'r top, awr o chwysu a siarad gyda dynes o America a oedd wedi bod yn edrych ar ôl anifeiliaid ar ynys yn Flores am 5 wythnos!! Roedd hi wrth ei bodd efo anifeiliaid.
Cyrredd y top ac estynnodd y guide lwyth o marshmallows i ni gael
eu toddi a'u bwyta! Cymrodd o tua 2 funud i mi doddo fy marshamallows, ond roedden nhw'n flasus tu hwnt.




No comments:
Post a Comment